Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr

Astudiaeth fyd-eang gan y Mudiad dros Gydweithrediad a Datblygiad Economaidd (Organisation for Economic Co-operation and Development) (OECD) o berfformiad addysgol disgyblion 15 mlwydd oed ym meysydd mathemateg, gwyddoniaeth a darllen ydy'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (Programme for International Assessment; PISA). Cafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2000 ac yna pob tair blynedd ers hynny. Caiff yr asesiad ei gynnal gyda'r nod o wella polisïau ac allbynnau addysgol. Gwneir defnydd cynyddol o'r data i asesu dylanwad safonau addysgol ar incwmau a thwf ac er mwyn deall yr hyn sy'n achosi gwahaniaethau ymhlith gwahanol genhedloedd.[1]

Cymrodd 470,000 o ddisgyblion 15 mlwydd oed o 65 o genhedloedd a thiriogaethau ran ym mhrofion PISA yn 2009. Ym mhrofion 2012, cymeroddodd 34 o wledydd OECD ran, a 31 o wledydd eraill, gyda 510,000 o ddisgyblion - 40,000 yn fwy na'r tro cynt.[2][3]

  1. Gwefan Llywodraeth Cymru; adalwyd Mehefin 2016
  2. PISA 2012 Results in Focus, OECD, 3 December 2013, http://www.oecd.org/pisa/keyfindings/pisa-2012-results-overview.pdf, adalwyd 4 Rhagfyr 2013
  3. "Programme for International Student Assessment (PISA)". The Council of Ministers of Education, Canada. Cyrchwyd 2016-06-05. Italic or bold markup not allowed in: |website= (help)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy